Laura EleanorJONES8fed Hydref 2024. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref Dolwen, Ffordd Caerdydd, Pwllheli yn 81 mlwydd oed. Priod ffyddlon Brian, mam gariadus Marian, Einir a Gruff, mam yng nghyfraith hoffus David ac Esyllt, nain falch Alice, Elin, Catrin, Tomos, Cai a Casi, chwaer annwyl Betty, chwaer yng nghyfraith a modryb hoffus a ffrind i lawer. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor dydd Gwener, 25ain Hydref am 11 o'r gloch gan ddilyn gyda gwasanaeth o ddiolchgarwch am fywyd Lena yng Nghapel y Drindod Pwllheli am 1.00 o'r gloch. Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gyfeillion Ysbyty Bryn Beryl trwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Laura