Buddug MaureenDAVIESHunodd yn dawel yn Ysbyty Bronglais, dydd Llun 3ydd o Hydref 2022 o '30 Bro Henllys, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan' yn 79 mlwydd oed. Annwyl briod y diweddar Evan John Davies, Mam arbennig Jayne, Paul, Mark a Gary. Merch annwyl i'r diweddar Tomi ac Annie Moyddin Fawr, Gorsgoch a chwaer hoffus Llinos, Gloria ac Eirlys a'r diweddar Tegwen, Morfydd, Lloyd, Linda, Gerwyn, Euros, Vernon ac Orwig. Mam-gu cariadus i Joshua, Angharad, Ethan, Garan, Ceulan, Ioan, Dulas ac hen fam-gu i Osian. Angladd gwbl breifat yn Amlosgfa Aberystwyth ar ddydd Iau, Hydref 13eg am 1.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, er cof am Maureen, tuag at 'Ileostomy and Internal Pouch Association', trwy law yr Ymgymerwr Alan Edwards. Unrhyw siec yn daladwy i Alan Edwards D Edwards a'i fab, Awel Enlli, Dihewyd, Llanbed, SA48 7PN. Ffôn: 01570470289
Keep me informed of updates