Robert Andrew RedmondTHOMAS10 Medi, 2024. Yn sydyn, ond eto'n dawel yn Ysbyty Gwynedd, ac o 7 Ger-y-Bont, Abererch. Gŵr cariadus Mair a thad amhrisiadwy y diweddar Dewi, brawd gofalus Madog a Louie, brawd-yng-nghyfraith hoff Glenys, John Gwyn a Robert ac ewythr annwyl Gareth, Ema, Tomos a'r diweddar Richard a James.
Angladd brynhawn Mawrth, 1 Hydref, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Isa', Abererch am 2.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Sant Cawrdaf, Abererch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Ward Hebog, Ysbyty Gwynedd.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates