ElwynJONES-GRIFFITHJONES-GRIFFITH - ELWYN. Dymuna Val, Arwel, Aled a Medwen a'r teulu estynedig ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gwr, tad, tad-yng-nghyfraith, taid a chefnder annwyl iawn. Diolch am yr holl ymweliadau, galwadau ff?n, cardiau a rhoddion hael tuag at Ap?l Ambiwlans Awyr Cymru ac achosion lleol. Diolch i'r teulu, ffrindiau a chymdogion am ein cynnal yn ystod yr amser anodd hwn. Diolch hefyd i Dr. Paul Crabtree a'r genod ym meddygfa Llys Meddyg, ac i staff Fferyllfa Pen-y-groes. Hefyd diolch arbennig i Feddygon a Gweinyddesau Ward Aran, Ysbyty Gwynedd am eu gofal arbennig o Elwyn yn ystod y bedair wythnos y bu yn glaf yno. Mawr yw ein diolch hefyd i'r Parchedig Ddr. Huw John Hughes am y gwasanaeth yng Nghapel Soar, Pen-y-groes, ac i'r Parch. Ioan Wyn Gruffydd (cefnder Elwyn) am ei ran yntau yn y gwasanaeth. Diolch hefyd i Alun Ffred Jones am deyrnged ardderchog ac i Mrs Beryl Jones, yr organyddes, heb anghofio rhan Aled, Mared a Gwenllian yn y gwasanaeth. Roedd Taid yn meddwl y byd o'r ddwy ohonynt, ynghyd ag Osian, Siwan a Beca. Roedd y lluniaeth yng ngofal Enid a'r genod yng Nghlwb Golff Caernarfon, a mawr yw ein diolch iddi am y wledd a gafwyd. Hoffem ddatgan ein diolch i Iolo, Janice a'r hogiau o gwmni Roberts & Owen, am eu cefnogaeth, cymorth a'u trefniadau trylwyr. Diolch yn fawr i bawb.
Keep me informed of updates