EuniceJONES-PARRYCyn-athrawes Ysgol Tal-y-sarn hyd at 1990. 7 Hydref, 2024. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Bali-Hi, 7 Ty'n Llan, Llandwrog yn 98 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Robert (Robin Ffariar) a mam arbennig Ivan ac Ann; mam-yng-nghyfraith Twm a Jan, nain falch iawn Carwyn, Euron, Dilwyn a Sara a'u partneriaid a hen-nain i Gwenllian, Robin, Caio, Alaw, Cadi, Mared, Iestyn, Dion, Roxy, Aila, Alffi, Olivia a Max bach. Angladd fore Sadwrn, 26 Hydref, 2024.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Baladeulyn, Nantlle am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah, Pen-y-groes.
Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Ward Strôc Prysor, Ysbyty Gwynedd.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Eunice