JenniferJONES(Jen) Yn dawel ar fore Mawrth Mai 26, 2015, gyda'i theulu o'i hamgylch yn ysbyty Treforys, Jen o Dolwlff, Llanybydder; chwaer annwyl Ann a Julie a chwaer-yng-nghyfraith parchus Peter, ffrind Elgan a modryb hoffus Paul a Jane, Mark a Rhian a hen fodryb Gwennan, Steffan a Cai. Angladd preifat yn Amlosgfa Aberystwyth ar ddydd Mawrth Mehefin 2, 2015 am 12.45 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond rhoddion os dymunir tuag at "Nyrsys Llanybydder a Llanbed" trwy law Gwilym C Price ei Fab a'i Ferched, 1 a 2 Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan SA48 7DY. Ffon 01570 422673.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Jennifer