Vera TrevorJONES,Mawrth 18, 2021, yn dawel yn ei chartref, bu farw Vera o 'Gwalia', Yr Wyddgrug. Priod ffyddlon y Parch J. Bryn Jones, mam ofalgar Tudur, Deiniol, Nia ac Angharad, mam-yng-nghyfraith garedig Linda, Sioned a Mike, nain gariadus Gwennol a Gareth, Hedd a Nadine, Guto, Dion a Meilyr, hen nain annwyl Gruffudd, Pwyll, Ynyr a Macsen a chwaer addfwyn Beryl. Gwasanaeth trwy wahoddiad yn Amlosgfa Llaneurgain. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion os dymunir i'w rhannu rhwng Meddygfa Bradley's, Yr Wyddgrug a Nyrsys Macmillan drwy law H. J. Williams a'i Feibion, "Haranfa", Cymau, Wrecsam LL11 5EU. (01978) 760200
Keep me informed of updates