William GwynJONESYn dawel yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Mercher 13eg o Ragfyr 2023 yn 91 mlwydd oed hunodd Gwyn, Undergrove, Pentrebach. Priod annwyl Margaret. Tad cariadus Marian, Sandra ac Alan. Tad yng ngyfraith Sianed a Nigel. Tadcu hoffus Fiona, Carys, Deian, Fflur, Hana a Richard. Hen dadcu balch Sion ac Elsi. Brawd, brawd yng nghyfraith ac ewythr ffyddlon.
Angladd hollol breifat yn ol ei ddymuniad.
Rhoddion os dymunir er cof am Gwyn i Adran Dydd Cemotherapi, Ysbyty Glangwili lle gafodd ofal arbennig am dros ugain mlynedd.
Derbynir rhoddion trwy law yr Ymgymerwr Alan Edwards, Trefnwr Angladdau D Edwards a'i fab, Awel Enlli, Dihewyd, Llanbed, SA48 7PN. Ffôn: 01570 470289. Seiciau yn daladwy i "Carmarthen Oncology Fund".
Keep me informed of updates
Leave a tribute for William