GlynRHYSHunodd gartref yn Ystradmeurig ar bnawn Mawrth, y Mehefin 9, 2015, yn dawel yng ngwydd ei deulu annwyl, ei briod Ann a'u plant Rhian, Catrin, Mared, Ceril, Ffion, Mirain a Rob, Dadcu llawn sbort i Lleucu, Manon, Cadi, Macsen, Awen, Mali, Anna, Indeg, Caleb, Talar, Gwenno, Dewi a Gwen. Angladd am 2 o'r gloch ar brynhawn Mercher, Mehefin 17 yn Eglwys Taliaris, ger Llandeilo. Croesawir rhoddion i Urdd Gobaith Cymru, yn hytrach na blodau, drwy law Gwilym Price a'i fab a'i ferched, 1-2 Stryd y Coleg, Llambed, Ceredigion, 01570 422673 neu www.justgiving.com/glynrhys
Keep me informed of updates