Maggie JaneROBERTSROBERTS - MAGGIE JANE (Megan). 18 Chwefror, 2015. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, ac o Gartref Gwynfa, Caernarfon, yn 96 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon y diweddar Barchedig L.G. Roberts, mam annwyl Alun a'i wraig Gwenno, ac Arwel a'i wraig Awen. Nain ofalus ac arbennig i Rhys a'i wraig Nia, a hen nain falch iawn Gwern Elis a Leusa Grug. Cyflwyniant yn Amlosgfa Bangor fore Iau, 26 Chwefror, 2015 am 11.00 o'r gloch, gyda gwasanaeth i ddathlu ei bywyd i ddilyn yng Nghapel Salem, Caernarfon am 12.30 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Gapel Salem. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates