IdrisDAVIESDymuna Marged, Ellen a theulu'r diweddar Idris Davies, Llanpumsaint, ddiolch yn ddifuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynwyd atynt yn eu profedigaeth sydyn o golli Idris, ac hefyd am y cyfraniadau hael a dderbyniwyd tuag at Open Doors a'r Trinitarian Bible Society er cof amdano. Mae'r cariad a'r gofal a dderbyniwyd gennym fel teulu wedi bod o gysur mawr mewn cyfnod anodd. Hoffem hefyd ddiolch i Uned Gofal Ddwys a Ward Steffan Ysbyty Glangwili, i'r Parchedig Dafydd Morris, a'r ymgymerwyr, Glanmor Evans a'i Fab, am eu gofal a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod yma.
Keep me informed of updates