AnnieDAVIESAnnie Blaenbachcrydd Yn ddisymwth ar ddydd Sadwrn 1af Ebrill 2017 yn ei chartref Clos Glas, Coedybryn hunodd Annie yn 92 mlwydd oed, chwaer ymroddgar a didwyll Ivor, a'r diweddar Hannah a Joe, modryb annwyl Alan, Geraint, Llinos, Olwen a Mabel; ffrind parchus i'w theulu a'i chymuned. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yng Nghapel Coedybryn ddydd Sadwrn 8fed Ebrill am 11.00 o'r gloch ac yna rhoddir i orffwys ym medd y teulu yn Mynwent Capel Gwernllwyn, Penrhiw-llan. Plethdorch y teulu yn unig, derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir i'w rhannu rhwng Capel Coedybryn a Papur Llafar y Deillion trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ffon 01239 851 005.
Keep me informed of updates