Glenys AugustaEVANS26 Mai, 2024. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref, Belan View, Rhosgadfan, yn 91 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Thomas Elwyn Evans, mam a ffrind addfwyn Helen a'r diweddar Bryn; mam-yng-nghyfraith Richard, nain arbennig a balch eithriadol o Bethan, a chyfaill Cledwyn. Angladd fore Mercher, 12 Mehefin, 2024. Gwasanaeth preifat ar yr aelwyd, gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Cefnfaes, Rhos Isaf am oddeutu 11.00 o'r gloch. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Glenys tuag at elusennau lleol, pe dymunir. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates