Paul LloydEVANS23 Awst, 2024. Yn frawychus o sydyn, gynt o Moelwyn, 64 Snowdon Street, Porthmadog, yn 37 mlwydd oed. Mab arbennig Joey a Gareth, cymar hoff Jade a thad a ffrind gorau Morgan; brawd annwyl Dafydd a Richard, ewythr unigryw Maisey a wyr hoff ei Daid Robin a'i ddiweddar Nain Laura, a'i Daid Gerallt a'i ddiweddar Nain Marina. Hefyd gor-wyr y diweddar Nain Isgraig a Taid Ellis. Angladd brynhawn Mercher, 18 Rhagfyr, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Cyngar, Borth y Gest am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn yn breifat ar lan y bedd ym Mynwent Treflys. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Paul tuag at Ysgol y Gorlan, Tremadog. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates