RobertEVANS(Robin Bryn Llan) Mawrth 11eg, 2025, yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yn 89 mlwydd oed, o 22 Cae Hendy, Llanbedrog.
Annwyl briod y ddiweddar Elizabeth, tad arbennig Geraint,Gwenda a'i phriod Chris,taid balch Nathan, Kyle, Kirin, Sean, Joe a Finn, hen daid Alaw, Iwan, Noah a Lily, hoff frawd Huw, Ifan, Elsie, Medi, Dwynwen, Mair a'r diweddar Lewis a Heulwen.
Colled i'w deulu a'i ffrindiau oll.
Gwasanaeth preifat yng Nghpel Gorffwys, Yr Ala, Pwllheli ddydd Mawrth Ebrill 1af, 2025 am 11 o'r gloch ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Newydd y Bwlch, Llanengan oddeutu 12 o'r gloch.
Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Robin tuag at Hafod Hedd Ysbyty Bryn Beryl trwy yr Ymgymerwyr Angladdau.
G D Roberts a'i Fab Cyf Capel Gorffwys, Pwllheli 01758 701101
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Robert