OlwenEVANS12 Tachwedd, 2026.
Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Gartref Preswyl Gwynfa, Caernarfon gynt o Garn, Ffordd Bangor, Caernarfon, yn 93 mlwydd oed.
Priod ffyddlon y diweddar R. Glyn Evans MBE, a mam arbennig Nigel a Ruth; mam-yng-nghyfraith hoff Julie, nain gariadus Mathew a Sarah, Lisa a James, Owen a Llinos, Gerallt ac Elin, hen-nain falch Morgan, Millie, William, Megan, Leni, Deio, Alys, a ffrind a chymydog triw.
Bydd yn golled fawr i'w theulu oll.
Angladd fore Llun, 7 Rhagfyr, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 11.00 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Olwen tuag at Cancer Research UK.
Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon, LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates