Evan HallGRIFFITHGRIFFITH - EVAN HALL (Evie), . Plas Gwyn, Botwnnog, fu farw yn Ysbyty Bryn Beryl ar Fai 19eg 2017 yn 92 mlwydd oed. Priod gofalus y diweddar Lena. Tad a thad yng nghyfraith Alwyn ac Eldrydd Gruffydd. Taid balch Ciron a Lleucu. Gwasanaethodd ei fro'n ffyddlon ar Gynghorau Sir Gaernarfon, Dwyfor, a Gwynedd. Cynhelir yr angladd am hanner dydd, dydd Gwener Mai 26 2017 yn Eglwys a Mynwent Llandegwning. Blodau'r teulu yn unig ond croesawir rhoddion Er Cof tuag at Neuadd Sarn Mellteyrn a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ymholiadau i Glyn Owen, Rhos Newydd, Mynytho, Pwllheli.
Keep me informed of updates