Llinos EifionaHENSONYn dawel yng Nghartref Nyrsio Alltymyndd ddydd Sul Ebrill 6ed 2025 yn 87 mlwydd oed hunodd Llinos, Erwlon, Cribyn (gynt o Moyddin Fawr).
Hoff briod y diweddar Raymond, mam, mam yng nghyfraith, mamgu a hen famgu gariadus.
Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Troedyrhiw, Cribyn (SA48 7QJ) ddydd Sadwrn Ebrill 19eg 2025 am 2 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion er cof am Llinos os dymunir tuag at Calonnau Cymru a Chymdeithas Alzheimer's Cymru (Sieciau'n daladwy i Cenfil Reeves a'i Fab Donation Account) trwy law -
Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB Ffon 01545 590254
Keep me informed of updates