Robert EifionHUGHESHUGHES - ROBERT EIFION. Dymuna Myra, Gwyndaf, Eirian a theulu'r diweddar Robert Eifion Hughes (Eifion) o 6 Green Terrace, Llangaffo ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn ystod eu profedigaeth lem. Diolch yn fawr am y llu cardiau, ymweliadau a galwadau ff?n a fu'n gysur mawr iddynt. Hefyd i'r Parch. Elizabeth Roberts a'r organyddes Mrs Mavis Williams am eu gwasanaeth ac i Mr Roy Williams am ei eiriau caredig. Diolch hefyd i doctoriaid a'r staff yn Meddygfa Penbryn, Dwyran, i Dr a Mrs Sutton a Ms Iola Thomas o Ysbyty Gwynedd am y gofal a gafodd Eifion yn ystod ei waeledd. Diolch am y rhoddion hael o drost ?1,000 a dderbynnir tuag at Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac i'r ymgymerwr Melvin Rowlands a'i gyd weithwyr am drefniadau urddasol. Diolch yn fawr i bawb.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Robert