DavidHUGHESHUGHES - DAVID. Mawrth 9fed, 2008 yn dawel yn Ysbyty Bryn Beryl ac o Tan Rallt, Bwlchderwin, (Gors y Wlad gynt), yn 92 mlwydd oed. Priod ffyddlon a ffrind caredig Megan, tad gofalus i Derwyn a Merfyn, tad yng nghyfraith tyner Iola a thaid balch Delyth, Meurig, Meleri, Manon Haf, Catrin a Sion, ac ewythr hoff ei nithoedd a'i neiaint. Angladd Dydd Gwener, Mawrth 14eg. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ebenezer (B), Felin Gerrig, Llanllyfni am 1 o'r gloch ac i ddilyn yn gyhoeddus ym mynwent "Bethel", Golan, Penmorfa. Blodau'r teulu agosaf yn unig. Derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Dafydd i'w rannu rhwng Meddygfa Dolwenith, Penygroes a Chronfa'r Gweinyddesau lleol, naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon: 01286 660365.
Keep me informed of updates