Roedd gen i’r parch mwyaf i Madge. Fe’i cofiaf yn crwydro eisteddfodau bach a mawr yn y chwedegau a’r saithdegau yn cystadlu yn llwyddiannus iawn ar y Brif Adroddiad. Yna, bu’n driw iawn i eisteddfodau bach, yn arbennig, yn beirniadu ymhell ac agos ac yn eisteddfodau’r Urdd. Roedd ei beirniadaethau bob amser yn gadarhaol, yn adeiladol a charedig. Roedd yn Gymraes i’r carn, yn eisteddfodwraig frwd, a dynes yr oeddech bob amser yn teimlo’n well ar ôl ei chyfarfod. Diolch am gael ei hadnabod. Annwen Jones
Annwen Jones
17/02/2022