William MorrisHUGHESDymuna Joan, Meurig, Dilwyn a'r teulu oll ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad, brawd a thaid annwyl. Diolch am y llu o gardiau a'r rhoddion tuag at Meddygfa Waenfawr a Ward Glyder, Ysbyty Gwynedd. Hoffem ddiolch hefyd am y gofal a ddangoswyd gan staff Gofal Lliniarol. Diolch yn arbennig i'r Parchedig Dilys Jones o'r Amwythig a Chanon Dylan Williams am eu gwasanaeth trylyw yn yr Eglwys a'r Amlosgfa, hefyd i Mr Gwynfor Jones am ei deyrnged arbennig, ac i'r organydd, Mr Gareth Jones. Yn olaf diolchwn i'r Ymgymerwyr Roberts & Owen am eu trefniadau proffesiynnol ac urddasol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William