Thomas GwilymHUGHESDymuna Gwyn, Dewi, Annwen a'r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdemlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli tad, taid, hen-daid, a thad-yng-nghyfraith annwyl iawn sef, Thomas Hughes, Gorseddfa, Saron. Diolch yn arbennig i staff wardiau Gogarth a Prysor Ysbyty Gwynedd a Meddygon Hafan Iechyd am eu gofal. Diolch hefyd i Dafydd Iwan am y gwasanaeth urddasol, i Iolo a'i staff yn Roberts ac Owen am y trefniadau parchus a Phant Du am y lluniaeth ardderchog. Yn olaf diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Thomas tuag at Ward Prysor.
Keep me informed of updates