CemlynHUGHESHunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar y 12fed o Awst 2026 yn 85 mlwydd oed o 3 Bron Dinas, Llangefni. Priod ffyddlon a ffrind gorau Jean, tad gofalus Carol a Ruth, tad yng ghyfraith a ffrind i Dyfrig, taid arbennig Mari Cemlyn ac Elis, brawd hoff Trefor a'i briod Tina. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Lôn Y Felin, Llangefni ddydd Sadwrn Medi y 12fed am 11.30 y bore. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Capel Disgwylfa, Gaerwen.
Blodau teulu agos yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Cemlyn yn ddiolchgar tuag at Ward Tryfan, Ysbyty Gwynedd drwy law ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE Ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates