Carol AnnHUGHESBu farw Carol yn dawel ac urddasol yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Glan Rhos, Brynsiencyn yn dilyn salwch creulon, ar ddydd ei phenblwydd 23ain o Dachwedd 2026 yn 74 mlwydd oed o 79 Perth Y Paen, Llangefni.
Gwraig gariadus Ivor, Mam arbennig a gofalus Aled a'i briod Ffion, Nain falch Non a Dyfan, Chwaer ffyddlon Gareth a'i wraig Ann, Elaine a'i gwr Brian, Chwaer yng nghyfraith Alma, Modryb Sharon, Graham a Kerry, Catrin a Jim, Elin ac Aron.
Bydd yn golled enfawr i'w theulu a ffrindiau oll.
Cynhelir yr angladd ddydd Sadwrn 5ed o Ragfyr am 11.00 y bore yng Nghapel Ebenezer, Rhosmeirch ac i ddilyn yn y fynwent.
Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Carol i'w rhannu rhwng Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd a Ward Alaw Ysbyty Gwynedd (sieciau yn daladwy i cyfrif rhoddion Melvin Rowlands os gwelwch yn dda) drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Rhif ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates