LilianJAMESYn dawel ar Ddydd Llun 22ain o Orffennaf, yng nghwmni ei theulu, yn ysbyty Bronglais, Aberystwyth, hunodd Lilian, Blaenresger, Cilcennin, priod hoff y diweddar Gwilym, mam ofalus Eilir a Margaret, mam yng nghyfraith barchus Eleri a John, mamgu gariadus Eirlys, Gethin, Meryl a Rhodri, hen famgu hoffus Lowri, Owen, Hanna, Cerys, Morgan, Theodore ac Elsi, a chwaer annwyl Brian. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys y Drindod Sanctaidd Cilcennin ar ddydd Mawrth y 30ain o Orffennaf am 2 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Ymholiadau pellach i J.T. James, Trefnwyr Angladdau, Aberaeron. (01545 570632).
Keep me informed of updates