Daniel MeurigJAMESYn dawel ar fore Gwener 25ain Awst bu farw Daniel Meurig James, Dolennog, Llanon, Ceredigion yn 88 mlwydd oed.
Priod hoff y diweddar Ena, tad gofalus Illtud a Nia, tad yng nghyfraith parchus John, tadcu annwyl Rhodri, Gwydion, Dyfan, Caio ac Ywain a brawd yng nghyfraith Olga a'r diweddar Huw.
Angladd preifat yng nghapel gorffwys Gorwel, Llanbedr Pont Steffan ar Ddydd Iau 7fed o Fedi 2023 am 1 o'r gloch a chladdedigaeth i ddilyn ym mynwent Capel Nonni, Llanllwni.
Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion os dymunir tuag at ward y Banwy, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth trwy law
Gwilym C Price ei Fab a'i Ferched, 1 a 2 Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan. SA48 7DY (01570 422673).
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Daniel