David OwenJONES(Owie Dolau) (D.O.) Yn dawel yng nghwmni ei deulu, ar ei aelwyd yn Dolau, Llandyfriog hunodd Owie, yn 88 mlwydd oed; priod tyner Nan, tad neulltuol a chefnogol Glenda a Joyce, tad-yng-nghyfraith hoffus Alan a thadcu cariadus Siwan a Daniel. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yn Eglwys St Tyfriog, Llandyfriog ddydd Iau Mawrth 3, 2016 am 1.30 o'r gloch ac yna i ddilyn yn breifat rhoddir i orffwys ym mynwent Capel Bryngwenith. Dim blodau, ond os dymuner derbynnir cyfraniadau er cof, yn benodol tuag at Ymchwil Dementia, sieciau yn daladwy i 'Alzheimers Society' trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH.
Keep me informed of updates