Dilys IreneJONESJONES - DILYS IRENE. 20 Chwefror, 2015. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, gynt o Bronant, Carmel, yn 94 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Hugh Griffith Jones, a mam arbennig Elen a Carys; mam-yng-nghyfraith annwyl Les a Paul, a nain gariadus ei wyrion, wyresau a'u partneriaid, Iwan a Tania, Lona a Guto, Elen a Gerallt, a Gareth a Nia; hen-nain amhrisiadwy Gethin, Lois, Deio, Seren, Celt, Moli a Morgan, a chwaer hoff y diweddar Ceren, Blodwen, Llew, Marion a'u teuluoedd oll. Angladd fore Gwener, 27 Chwefror, 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Carmel, Carmel am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Pisgah. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates