Lizzie JaneJONESJONES - LIZZIE JANE. 13 Hydref, 2014. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o 6 Rhos Dulyn, Nebo, yn 94 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Griffith Jones, a mam arbennig Dulyn, Glenys, Silyn, Megan, Hefin, Elwyn, Eifion a'r diweddar Ellen Ann, Elisabeth a Gwynfor; hefyd mam-yng-nghyfraith hoff a nain a hen-nain dyner ei holl wyrion, wyresau a'i gor-wyrion a gor-wyresau. Angladd brynhawn Mawrth, 21 Hydref, 2014. Gwasanaeth preifat ar aelwyd 6 Rhos Dulyn gan ddilyn yn gyhoeddus yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni am 2.00 o'r gloch. Fe'i rhoddir i orffwys drachefn ym Mynwent Gorffwysfa. Dim rhoddion, os gwelwch yn dda, a blodau gan y teulu'n unig. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates