VivianJONESJONES - VIVIAN. 22 Medi 2014 yn dawel yn ei gartref, 19 Stryd Dorfil, Blaenau Ffestiniog yng nghwmni ei deulu, yn 77 mlwydd oed. Priod cariadus a charedig Glenys, tad addfwyn a gofalgar Ifor, Karen ac Elfyn, tad yng nghyfraith Dylan a Jackie a thaid annwyl Mared, Sioned, Cari, Carl a Cai. Brawd annwyl Eric a Lina. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog ar ddydd Gwener, Medi 26 am 1.00 o'r gloch ac yna i ddilyn ym Mynwent Llan Ffestiniog. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ward Alaw Ysbyty Gwynedd trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Stryd Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH 01766 512091
Keep me informed of updates