StanJONESJONES - STAN. Dymuna Betty, Maldwyn a Iona a'r teulu ddiolch yn gynnes iawn i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gwr a thad arbennig ac annwyl iawn. Diolch yn fawr i'r Parchedig R.O. Roberts am arwain y gwasanaeth yng Nghapel Isa, Nefyn ac wedyn yn yr Amlosgfa a hefyd i Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr. Diolch i bawb oedd yn gallu bod yn bresennol yn y gwasanaeth a hefyd am y rhoddion hael tuag at Ysbyty Alltwen a Ward Glaslyn, Ysbyty Gwynedd.
Keep me informed of updates