CatherineJONESJONES - CATHERINE. (Cati, gynt o Tywynfa, Llanbedrog) Bu farw yn 91 mlwydd oed ar 14eg Mawrth. Gwraig annwyl a chymar oes y diweddar Idris, mam ofalus a ffrind Gwenan a'i gwr Gwilym, chwaer, modryb, cyfaill a chymdoges ffyddlon. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Peniel Newydd, Llanbedrog, dydd Iau 17eg Mawrth am 1-00 o'r gloch ac i ddilyn ym mynwent Bethel, Penrhos. Derbynnir rhoddion er cof at Gapel Peniel Newydd, Llanbedrog trwy law yr ymgymerwr Glyn Owen, Rhos Newydd, Mynytho.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine