GoronwyJONESJONES - GORONWY Mehefin 23ain, 2014, yn dawel yng nghwmni ei briod a'i deulu agosaf yn Ysbyty Gwynedd, o 'Rhos Deiniol', Cefn y Gader, Morfa Bychan, yn 70 mlwydd oed. Gwr arbennig Sylvia; brawd yng nghyfraith ffyddlon Annwen, Evan a'r diweddar Richard. Ewythr balch Mari, Rhian, Geraint, Elaine, Rhodri a Meurig ac ewythr cariadus i'w plant hwythau. Cefnder annwyl Elen, Sian a'r ddiweddar Menna Wyn. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Salem, Porthmadog ar ddydd Mawrth Gorffennaf 1af am 11 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym mynwent Capel Ebenezer, Rhosmeirch am 1:30. Dim blodau ond os dymunir, derbynir yn ddiolchgar rhoddion at Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd er cof amdano, drwy law'r ymgymerwr Pritchard a Griffiths Cyf., Heol Dulyn, Tremadog. Ffon 01766 512091.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Goronwy