HenryJONESJONES - HENRY, (Harri Bwtchar). 25 Mehefin, 2014. Yn dawel yng Nghartref Nyrsio Plas Gwyn, Pentrefelin, gynt o 21 Maes Hyfryd, Carmel, yn 92 mlwydd oed. Priod addfwyn a thyner Sydney, a thad gofalus Leslie, Carol, Iola, Eric, Valmai a Lynn; tad-yng-nghyfraith hoff Ann, Wil, Ken, Helen, Aled ac Alan, taid arbennig a hen-daid balch ei holl wyrion a'i wyresau, ac efaill triw y diweddar Evan; brawd annwyl Mair, Davina, Rhydwyn, a'r diweddar Thomas Idwal, William David a'r teuluoedd oll. Angladd brynhawn Mercher, 2 Gorffennaf, 2014. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Carmel M.C. am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Carmel. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Gartref Plas Gwyn. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Henry