Thomas RichardsJONESJONES - THOMAS RICHARDS. Y Parchedig (T.R.) Gorffennaf 14eg 2014 yn dawel yng Nghartref Nyrsio Plasgwyn, Pentrefelin (o 23 Heol Newydd, Porthmadog) yng nghwmni ei deulu a'i Weinidog yn 93 mlwydd oed. Cyn Weinidog Llanarmon-yn-Ial, Chwilog a Bowydd, Blaenau Ffestiniog. Gwr cariadus a ffyddlon Nan ers 64 o flynyddoedd. Tad addfwyn Meryl a'r diweddar Evan, Eleri a John, Bethan a Griff. Taid hoff Lowri a Garmon, Gareth, Gwenan, Rhys a Sian, Rhian, Carys, Catrin, Non a Sion a Taid Port arbennig Iolo a Branwen, Ynyr a Gwern. Brawd y diweddar Morfudd. Gwasanaeth i'r teulu ym Mynwent Chwilog dydd Gwener 18fed am 11 o'r gloch ac yna bydd gwasanaeth cyhoeddus i ddiolch am ei fywyd am 1:30 o'r gloch yng Nghapel y Porth, Porthmadog. Blodau gan y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion tuag at Cymorth Cristnogol drwy law yr ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Stryd Dulyn, Tremadog - 01766 512091.
Keep me informed of updates