Jennie GoodmanJONESJONES - JENNIE GOODMAN , . (Sianw) Ionawr 18fed 2021 yng nghartref Dolwar Llanbedrog (gynt o Crindir, Llanbedrog), merch y diweddar Ifan a Netta Jones. Chwaer annwyl Eifion a'i wraig Kathie, Irene a John, Kathleen a Pete, Sulwen ac Ian. Modryb a hen fodryb hynod o hwyliog a chwareus i'w neiaint a'i nith a'u plant bach,'roedd yn meddwl y byd ohonynt. Angladd cwbwl breifat i'r teulu agosaf yn unig. Blodau i'r teulu yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at gartref Dolwar trwy law Glyn Owen, Rhos Newydd, Mynytho, LL53 7RW. Mae ein diolch yn fawr i'w gofalwyr ar hyd y blynyddoedd. Bu caredigrwydd gweithwyr Dolwar yn arbennig iawn a'r tîm gofal lliniarol a nyrsys Botwnnog fu'n gofalu amdani.
Keep me informed of updates