HumphreyJONESJONES - HUMPHREY (Wmffra), 23 Mawrth 2021. Yn dawel, yng nghwmni ei deulu, gartref yn Bryn Llin, Abergeirw yn 91 mlwydd oed. Gŵr ffyddlon Mary; tad cariadus Hedd a'r ddiweddar Ceri; taid balch Llyr, Alun, Llinos, Cara a Gethin; hen daid annwyl a ewythr hoffus. Bydd yn golled mawr i'w deulu ac i bawb oedd yn ei adnabod. Gwasanaeth preifat, gan ddilyn y cyfyngiadau presennol, yn Amlosgfa Aberystwyth ddydd Mawrth, 6 Ebrill, 2021 am 12:00 o'r gloch. Os bydd rhywyn yn dymuno ffarwelio â Wmffra bydd yr hers yn trafeilio trwy'r "Farmers Mart" Dolgellau am 10:30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Nyrsys Cymunedol (District Nurses) Dolgellau. Ymholiadau pellach i'r Trefnwyr Angladdau Gwasanaethau Ôl-ofal, Tywyn. LL36 9AD Ffôn 01654 713975
Keep me informed of updates
Add a tribute for Humphrey