John Morgan EmrysJONES(Emrys Penrhyn) Yn sydyn yn ysbyty Bronglais ar Orffennaf y 15fed 2021 yn 80 oed hunodd Emrys, Bryngwenith, Henfynyw, Aberaeron. Priod hoff a ffyddlon Elizabeth, tad a thad-yng-nghyfraith cariadus a chefnogol Enfys a Gwyndaf, Eifiona a Gerwyn. Tad-cu hoffus Ceris, Teleri, Dafydd, Cerian, a'u partneriaid, Carwyn, Richard, Fflur a Harry a hen-dadcu annwyl ei or-ŵyr Ifan Morgan. Yn unol â chanllawiau COVID-19 cynhelir gwasanaeth hollol breifat yng Nghapel Neuaddlwyd ar ddydd Gwener Gorffennaf y 23ain 2021. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion os dymunir tuag at CDU, Ysbyty Bronglais trwy law Miss Marina James, Y Darren, Heol Panteg, Aberaeron SA46 0EQ. Ymholiadau pellach i J.T. James, Trefnwr Angladdau, Aeron View, Bryn Road, Aberaeron SA46 0JL. Ffôn 01545 570632.
Keep me informed of updates