Elizabeth AnnJONESo Cochrwd, Penygroes. Hunodd yn dawel ar Tachwedd 9fed 2022 yn 79 mlwydd oed, yng nghwmni ei theulu, yn dilyn gwaeledd byr. Priod y diweddar Edgar Vaughan a mam arbennig i Ann ac Alwyn. Mam yng nghyfraith addfwyn i Ffion a nain balch a chariadus i Deian, Erin, Caron, Arwen a Cain. Chwaer annwyl Glenda, Edgar, Sam, Margiad, Annwen ac Aled a'r diweddar Geraint, Ieu, Miriam ac Evan. Bydd colled trist i'w theulu a ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar, Penygroes dydd Mercher 23ain Tachwedd 2022 am 11.30 ac yna i ddilyn yn yr Amlosgfa Bangor am 1.30. Blodau'r teulu yn unig. Os dymunnir, derbynnir rhoddion er cof am Lis tuag at Y Gymdeithas Strôc, Alzheimers Society a Dementia Actif Gwynedd. Ymholiadau pellach Cyfarwyddwyr Angladdau Paragon, Heol y Dŵr, Penygroes LL54 6LR 01286 88156
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Elizabeth