HelenJONESRhagfyr 3, 2022, yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Nghartref Gwynfa, Caernarfon, gynt o 'Bod Hyfryd', Ffordd y Gogledd, Caernarfon yn 93 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Harry, mam annwyl Elfed a Geraint, mam-yng-nghyfraith hoff Llinos a'r diweddar Bethan, nain gariadus Siôn, Carwyn, Rachel, Lowri a'i phriod Garry, Megan, Owain, a hen nain garedig Cian, Caio a Catrin. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seilo, Caernarfon ddydd Gwener Rhagfyr 16, 2022, am 11:00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Llanbeblig. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir yn ddiolchgar roddion tuag at 'Cwsg Babi Cwsg' er mwyn sefydlu gardd goffa i blant yn yr Amlosgfa ym Mangor, er cof am ei wyres Mari Lois. Ymholiadau pellach i Gwilym Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Ffordd y De, Caernarfon. Ffon (01286)673072.
Keep me informed of updates