Gwen MargaretJONESEbrill 29ain 2023. Yn dawel yng Nghartref Bryn yr Eglwys, Pentrefoelas, ac o Awel y Coleg a Mawnog Fach, Y Bala yn 93 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Dan, a mam a mam yng nghyfraith gariadus Alun a Delyth, Gwyn a Nerys. Nain a hen nain falch i Mererid, Elen, Dyfan, Anona, Caryl a Ceri, Llio, Erin, Mali, Awen, Morus, Nel, Loti a Celt, a chwaer hoffus Jane, Haf a John a'r diweddar Robert Iorwerth a Mary. Angladd preifat i'r teulu yn unig dydd Llun, Mai 22ain 2023 yn Amlosgfa Pentrebychan, Wrecsam. Blodau i'r teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Gartref Bryn yr Eglwys trwy law yr ymgymerwyr A.G. Evans a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Y Bala. Rhif Ffôn: 01678 520660.
Keep me informed of updates