Margaret YvonneJONESYn dawel ar y 4ydd o Fawrth 2024, Yvonne Pen y Banc, Llangybi. Priod annwyl y diweddar Tudor, mam hoffus John, David, Morfudd a Mel. Mamgu gariadus Arwel, Ffion, Arthur, Caryl, Christopher, Matthew a Sion a hen famgu Elis, Alex, Jacob ac Oscar a mam yng nghyfraith barchus Melvyn, Anthea a Teresa. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Cybi, Llangybi ar Ddydd Llun, Mawrth 11fed 2024 am 2 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond rhoddion os dymunir i Gronfa Staff Cartref Gofal Allt y Mynydd trwy law Gwilym C Price ei fab a'i ferched, 1 a 2 Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7DY (01570 422673).
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Margaret