OlwenJONES14 Hydref 2024. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yng nghwmni ei theulu, yn 82 oed, o Mur Poeth, Pencaerau, Rhiw. Cymar ffyddlon Robat, chwaer annwyl Enid a'r diweddar Cyril, Einion a Maldwyn, chwaer yng nghyfraith hoff Mari, modryb falch Iola, Menna, Dafydd, Roger a Sarah, a hen fodryb arbennig i Elis, Jo, Tomos, Meilyr, Efa, Mabli ac Olwen. Ffrind triw i lawer. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Mercher y 6ed o Dachwedd am 11 o'r gloch. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Olwen os dymunir, tuag at DEC (y Pwyllgor Argyfyngau Brys) a Llanw Llŷn, trwy law yr ymgymerwyr, Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates