Sylvia DoreenJONESAr ddydd Gwener Mehefin 6ed, 2025, yn dawel yn ei chartref Talarwen, Rhos, Llandysul, hunodd Doreen yn 93 oed, gynt o Castle View, Pencader.
Priod hoff y diweddar Peter, mam a mam yng-nghyfraith annwyl Sylvia a Goronwy, mamgu arbennig Rhodri, Rhydian a'i briod Angharad a hen famgu gariadus a charedig Mabli a Leusa.
Angladd breifat ddydd Sadwrn Mehefin 21ain yng Nghapel Gorffwys Henllys, Pencader am 11.00 y bore. Blodau'r teulu'n unig.
Ymholiadau i'r trefnwr angladdau Tom Lewis, Aneddle, Pencader. 01559 384279
Keep me informed of updates