Margaret HelenJONESDydd Gwener Mehefin 27ain 2025, yn dawel yn nghwmni ei theulu yn ei chartref 38 Tre Rhosyr, Niwbwrch yn 75 mlwydd oed.
Gwraig gariadus David Hugh Jones, mam arbennig Catherine a'i dyweddi Stephen a John a'i briod Gwen, nain annwyl i Liam, Cameron, Cai, Siôn, Cerys a'r ddiweddar Chantelle, hen nain falch iawn i Elis, chwaer annwyl Elizabeth, Pheobe, Richard a'r diweddar William John, Dafydd, Owen a Mona. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau.
Gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei bywyd yn Eglwys Sant Pedr, Niwbwrch, ddydd Sadwrn Gorffennaf 19eg am 11.00 y bore. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Rofft Wen.
Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Margaret yn ddiolchgar tuag at Eglwys Sant Pedr Niwbwrch drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret