Nancy ElunedJONES2il Mehefin 2026. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Plas Madryn, Morfa Nefyn a gynt o 14 New Cottages, Llwyn, Trefor yn 90 mlwydd oed. Priod annwyl John (Jac) Hilton Jones. Mam gariadus Malcolm a'r diweddar Glyn a Glenys. Mam yng nghyfraith hoffus Linda, Noel a'r diweddar Dilys. Nain garedig Delyth, Anwen, Gareth, Delwyn a Dafydd. Chwaer hoffus i Jean a'r diweddar Gwyneth, Robin a Joyce. Hen-nain a modryb annwyl a ffrind i lawer.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn fore Mawrth, 23ain Mehefin am 11.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Trefor.
Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag ar Feddygfa Aelhaearn a Chartref Plas Madryn trwy law'r ymgymerwr angladdau (sieciau yn daladwy i Ifan Hughes Cyfrif Rhoddion). Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238.
Keep me informed of updates