BessieJONES19 Gorffennaf, 2026. Yn dawel yng Nghartref Cerrig yr Afon, Y Felinheli (Llys Arthur, Carmel gynt), yn 91 mlwydd oed. Gwraig annwyl y diweddar Guto, a mam gariadus Meirwen a'i ffrind Alan, a Mel a'i briod Carol; nain falch Emma a Ffion, ffrind gydol oes i Letta, cyfnither agos Haydn, Heather, Mary a Marian, ac anti arbennig Anwen, Aled a'r diweddar Dylan. Hefyd yn hen-anti i 7 a hen-hen-anti i 5.
Angladd fore Iau, 20 Awst, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Calfaria, Pen-y-groes am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Hermon, Rhosgadfan.
Derbynnir blodau yn ddiolchgar er cof am Bessie, neu roddion, pe dymunir, tuag at Gartref Nyrsio Cerrig yr Afon.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates