David WynLLOYDDymuna Carys, Nigel, Gareth, Lesley a theulu'r diweddar Dafydd Wyn Lloyd, 59 Trem y Wyddfa, Pen-y-groes ddatgan eu diolch cywiraf i berthnasau, ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad â hwy yn eu profedigaeth o golli tad, taid, hen-daid a brawd yn ddiweddar. Diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Dafydd tuag at Apêl Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i'r Parchedig Iwan Llewelyn Jones am arwain y gwasanaeth ddydd yr angladd a diolch yn fawr i'r ymgymerwyr Roberts ac Owen am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates