Lowri MairMORGANHen Dŷ, Llanfair-yng-Nghornwy, Ynys Môn. Mae Robat Trefor a phawb o'r teulu am ddiolch am bob gair o gydymdeimlad ac am bob caredigrwydd a gafwyd yn y brofedigaeth lem o golli Lowri. Diolch am yr holl gardiau a llythyrau a ddaeth, am bob e-bost ac am y llu o alwadau ffôn. Diolch i'r Parchedig Naomi Starkey a'r Parchedig Dafydd Wyn Wiliam am y gwasanaeth ddiwrnod yr angladd ac i'r ymgymerwyr, Griffith Roberts a'i Fab, Y Fali, am y trefniadau. Diolch hefyd am yr holl gyfraniadau a ddaeth i law er cof amdani. Llwyddwyd i godi dros fil o bunnau yr un i Gronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg ac YesCymru.
Keep me informed of updates